EvolveYouth Centre Gorsienon
EvolveYouth Centre Townhill
EvolveYouth Centre Stadwen
EvolveYouth Centre Blaen y maes

About Evolve
Evolve yw gwasanaeth pobl ifanc Cyngor Abertawe, sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc a'u teuluoedd:
∙ Cefnogaeth gan weithiwr arweiniol, yn ystod amserau anodd.
∙ Cefnogaeth arbenigol mewn meysydd fel iechyd rhywiol, cam-drin yn y cartref, ymddygiad cymryd risgiau a diogelwch ar-lein.
∙ Cyfleoedd i bobl ifanc y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i gael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ac aros ynddynt.
Mae Evolve hefyd yn cynnwys:
∙ Info-Nation: siop dan yr unto i bobl ifanc sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer materion fel iechyd rhywiol, digartrefedd, gadael gofal, camddefnyddio sylweddau etc.
∙ Clybiau ieuenctid lleol sy'n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i bobl ifanc;
∙ Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau preswyl ac awyr agored.
Gallwch gael mwy o fanylion drwy ffonio 01792 633954 neu e-bostio youth.service@swansea.gov.uk